Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Tachwedd 2018
Amser:
13.15 -
16.04
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5039
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru Mark Price, Llywodraeth Cymru Stephen Carr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Dave Rees |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio technegol ar Ddiogelwch Cymunedol yng Nghymru gan Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru; Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau De Cymru; Stephan Carr, Rheolwr Rhaglen Cymunedau Diogelach, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a Mark Price, Cydgysylltydd Rhaglen Cymunedau Diogelach Llywodraeth Cymru.
2.1 Cafodd yr Aelodau eu briffio gan yr Archwilydd Cyffredinol ar ei adroddiad a chytunwyd i ystyried y materion a godwyd ymhellach, o bosibl fel rhan o ystyriaeth ehangach o drefniadau gwrth-dwyll yn y sector cyhoeddus.
3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor
3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC a Jack Sargeant AC.
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.
Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig i gyfarfod yn breifat ar 26 Tachwedd 2018.